MennaOWENChwefror 23, 2025 Yn dawel yng nghwmni ei theulu ac wedi gofal arbennig yng Nghartref Preswyl Gwynfa, Caernarfon yn 90 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Evan Price Owen; mam gariadus Eluned, June, Kenneth ac Alan; mam yng nghyfraith, nain a hen nain arbennig; chwaer annwyl Eirlys, Glyn a Beryl; chwaer yng nghyfraith a modryb hoffus.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Caernarfon ddydd Gwener, Mawrth 14, 2025 am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanbeblig.
Derbynnir blodau. Ymholiadau pellach i
Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Menna